Y diweddar John Derrick
Mae’r byd criced yng Nghymru wedi bod yn talu teyrnged i gyn-brif hyfforddwr a chwaraewr Clwb Criced Morgannwg, John Derrick, sydd wedi marw’n 54 oed.

Fe fu’n derbyn triniaeth at diwmor ar ei ymennydd ers haf diwethaf, ac fe gafodd cinio arbennig ei drefnu gan Forgannwg, Criced Cymru a Chronfa Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) i godi arian iddo fe a’i deulu y tymor diwethaf.

John Derrick, y chwaraewr

Er mai fel hyfforddwr y bydd yn cael ei gofio’n bennaf, fe dreuliodd John Derrick flynyddoedd lawer yn chwarae i Forgannwg, gan ymuno â’r sir yn 1979.

Treuliodd flwyddyn ar staff yr MCC yn Lord’s a chael cryn ganmoliaeth gan y clwb.

Chwaraeodd mewn 95 o gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan ennill ei gap yn 1988.

John Derrick, yr hyfforddwr

Mae John Derrick yn cael ei ystyried yn hyfforddwr mwyaf llwyddiannus y sir, ar ôl ennill y gynghrair undydd genedlaethol ddwywaith yn 2002 a 2004, arwain ei dîm i Ddiwrnod Ffeinals y T20 Blast a sicrhau dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth yn 2004.

Roedd yn is-hyfforddwr o dan Duncan Fletcher pan gipiodd Morgannwg tlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1997, ac fe dreuliodd nifer o flynyddoedd yn hyfforddi’r ail dîm.

Enillodd gryn barch gan y chwaraewyr y bu’n eu hyfforddi, gan feithrin ysbryd o frawdoliaeth ymhlith y cenedlaethau o gricedwyr y bu’n allweddol yn eu gyrfaoedd.

Yn fwy diweddar, fe fu’n Gyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Criced Cymru ac yn ddadansoddwr ar ddarllediadau criced BBC Cymru, yn ogystal â bod yn gricedwr o safon uchel gyda Chlwb Criced Aberdâr.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Criced Cymru, fe fu’n allweddol wrth helpu i ddatblygu sgiliau nifer o chwaraewyr ifainc mwyaf disglair Morgannwg, gan gynnwys Aneurin Donald, Kiran Carlson a Lukas Carey.

Gwas ffyddlon

Wrth dalu teyrnged i John Derrick, dywedodd Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, Barry O’Brien ei fod yn “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.

“Roedd yn was ffyddlon i’r byd criced yng Nghymru am flynyddoedd lawer ac yn un o’r chwaraewyr mwyaf poblogaidd sydd wedi gwisgo’r daffodil.

“Bydd cynifer o bobol yn y gêm yng Nghymru a thu hwnt yn gweld ei eisiau, ac mae meddyliau pawb yng Nghlwb Criced Morgannwg gyda theulu John ar adeg mor anodd.”

‘Ffrind agos’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod John Derrick yn un o’i “ffrindiau agosaf” yn y byd criced.

“Fe ddechreuon ni chwarae gyda’n gilydd yn nhîm Ysgolion Cymru dan 15, ac roedden ni’n rhannu ystafell am nifer o flynyddoedd pan oedden ni gyda Morgannwg.

“Roedd e’n aelod hynod boblogaidd o’r ystafell wisgo ac wedi’i hoffi gan bawb yn y gêm.”

Ychwanegodd ei fod yn “hyfforddwr rhagorol” ac yn “ysbrydoliaeth” i gynifer o gricedwyr ifainc.

‘Ysbrydoliaeth’

Ychwanegodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: “Roedd JD yn ysbrydoliaeth i ddynion, merched a rhieni wrth iddyn nhw gwrso eu breuddwyd o gynrychioli timau Cymru, Morgannwg a Lloegr.

“Roedd ganddo fe angerdd heb ei ail at y byd criced ar bob lefel ar hyd a lled Cymru, ac fe fydd colled sylweddol ar ei ôl yn y teulu criced yng Nghymru.”