Carfan '97
Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n edrych yn ôl ar ddiwedd tymor digon siomedig i Glwb Criced Morgannwg…

Ro’n i wedi gobeithio gallu dechrau’r darn yma drwy longyfarch Matthew Maynard, prif hyfforddwr Gwlad yr Haf – a chyn-gapten a phrif hyfforddwr Morgannwg – ar arwain y sir i’w tlws Pencampwriaeth cyntaf erioed.

Daethon nhw’n ôl o waelodion yr adran (roedden nhw, fel Morgannwg, heb fuddugoliaeth yn eu chwe gêm gyntaf ddechrau’r tymor) i ddod o fewn trwch blewyn i orfoledd. Ond doedd dim diweddglo hapus – er iddyn nhw ddangos cryn gymeriad yn ystod y gêm olaf i guro Swydd Nottingham. Trueni na fuasai’r un cymeriad yn perthyn i Forgannwg y tymor hwn.

Pwyso a mesur y da a’r drwg

Gorffennodd Morgannwg yn yr wythfed safle yn ail adran y Bencampwriaeth, er iddyn nhw godi eu safon rywfaint yn ail hanner y tymor i sicrhau tair buddugoliaeth allan o 16 gêm yn y pen draw (daeth y tair yn ail hanner y tymor). Dydy Morgannwg ddim wedi codi eu hunain yn llwyr – ar y cae, o leiaf – allan o’r helynt chwe blynedd yn ôl a arweiniodd at Maynard yn ymddiswyddo, ynghyd â sawl unigolyn blaenllaw arall.

Mae’n deg dweud bod yr awydd i sicrhau criced rhyngwladol yng Nghaerdydd wedi gosod cyfyngiadau ariannol ar Forgannwg dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda stadiwm newydd sbon, fe ddaeth dyledion. Gyda’r dyledion y daeth newid pwyslais – o brynu chwaraewyr o’r tu draw i Bont Hafren i feithrin doniau chwaraewyr ifainc o Gymru.

Ar y cystadlaethau undydd y mae Morgannwg wedi canolbwyntio’r tymor hwn. Ac fe lwyddon nhw i ryw raddau. Daethon nhw o fewn un rownd o gyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast cyn colli allan yn y pen draw i Swydd Efrog ar ddiwedd gêm oedd yn teimlo fel trobwynt – am y gwaethaf. Ryw fynd drwy’r mosiwns oedden ni i gyd ar ôl y noson honno yng Nghaerdydd. Cystadleuaeth o ddau hanner gafodd Morgannwg hefyd yng nghwpan 50 pelawd Royal London – dechrau da ond colli eu ffordd fel nad oedd modd iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Yr un fu’r ‘esgus’ ers blynyddoedd bellach wrth geisio cyfiawnhau un perfformiad gwael ar ôl y llall – “Ry’n ni’n paratoi at y dyfodol”, “ry’n ni’n meithrin sgiliau Cymry’r dyfodol”, a.y.b. Fe’i hailadroddwyd gan Toby Radford adeg ei benodi’n brif hyfforddwr y sir yn 2014. Prin iawn y gwyddem ni oll bryd hynny y deuai’r broffwydoliaeth yn wir o fewn dwy flynedd. Yn wir, gweld rhai o’r chwaraewyr ifainc yn manteisio ar eu cyfleoedd oedd un o uchafbwyntiau prin tymor siomedig.

Tro ar fyd?

Bellach, mae gan Forgannwg griw da o Gymry ifainc yn y tîm ac ar y cyrion – dan arweiniad y Cymro Cymraeg Robert Croft a’r is-hyfforddwr Steve Watkin. Y to iau fydd yn eu cario, mae’n debyg, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Cafodd Aneurin Donald ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan y sir eleni ar ôl sgorio dros 1,300 o rediadau ym mhob cystadleuaeth. Fe darodd e ganred dwbl (234) ym Mae Colwyn i ddod yn gyfartal â’r record fyd-eang am y canred dwbwl cyflymaf erioed (Ravi Shastri, gynt o Forgannwg, sy’n rhannu’r record). Roedd record hefyd i Kiran Carlson, batiwr 18 oed o Gaerdydd, y chwaraewr ieuengaf erioed yn hanes Morgannwg i daro canred dosbarth cyntaf – gan guro record… ie, Matthew Maynard.

Mae Owen Morgan, y troellwr llaw chwith o’r Hendy, yn prysur sicrhau ei le yn y tîm fel chwaraewr amryddawn yn dilyn ei ganred cyntaf ar ddiwedd y tymor yng Nghaerwrangon ac mae’n siŵr y caiff e ddigon o gyfle i serennu gyda’r bêl y tymor nesaf yn sgil ymddeoliad Dean Cosker.

Ychwanegwch at hynny sgiliau’r bowliwr cyflym ifanc Lukas Carey, a gipiodd saith wiced yn San Helen yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton, ac mae digon o dystiolaeth y gall y daffodil flaguro unwaith eto’r flwyddyn nesaf.

Tymor 2017

Bydd hi’n 20 mlynedd fis Medi nesaf ers i Forgannwg godi tlws y Bencampwriaeth yn Taunton. Mae arwyddion cryf ar hyn o bryd fod potensial i’r criw presennol o Gymry ifainc yn y garfan efelychu llwyddiant carfan ’97. Ond fe fydd rhaid bod yn amyneddgar – fydd e ddim yn digwydd dros nos.

Bydd Orielwyr San Helen yn cyflwyno’u gwobrau nhw i’r chwaraewyr mewn cinio ar gyrion Abertawe heno. Bydd hi’n gystadleuaeth agos rhwng rhai o’r to iau am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, ond Aneurin Donald yw’r ceffyl blaen. Un neu ddau enw yn unig sy’n sefyll allan ar gyfer gwobr Chwaraewr y Flwyddyn. Gwyliwch y gofod…