Clwb Criced Casnewydd, Parc Spytty
Ar Fehefin 24, 1990 roedd hi’n ymddangos y byddai criced dosbarth cyntaf ar gae Rodney Parade yn dirwyn i ben o dan gwmwl a glaw’r dref ddiwydiannol heb i’r un belen o’r ornest olaf gael ei bowlio. Swydd Efrog oedd gwrthwynebwyr Morgannwg ar y diwrnod y byddai’r llen yn cwympo’n derfynol ar ganrif a chwarter o griced ar y cae hanesyddol yn Rodney Parade. Roedd ar fin cael ei werthu gyda’r byd rygbi yng Nghymru’n paratoi i droi’n broffesiynol.

Yn ddi-gartref ac yn ansicr o’u dyfodol, chwaraeodd Clwb Criced Casnewydd eu holl gemau oddi cartref cyn cael hyd i bencadlys newydd ym Mharc Spytty, cartre’r tîm pêl-droed, yn 1992. Chwarter canrif yn ddiweddarach a Pharc Spytty wedi’i hen sefydlu fel cartref newydd y clwb, roedd perygl bod tolc sylweddol o hanes yn mynd yn angof, fel yr eglurodd y prif hyfforddwr Mike Knight wrth Golwg360.

“Roedd nifer ohonon ni’n eistedd o gwmpas y bwrdd yn y bar yn trafod caeau dosbarth cyntaf da. Cafodd nifer o enwau eu crybwyll a wnes i awgrymu Rodney Parade. Roedd y cae yn dda, a’r llain yn wych i’r batwyr.

“Symudodd y sgwrs ymlaen ac ar ôl ychydig funudau, dywedodd ein capten Mike Claydon wrtha i, ‘Mike, dywedaist ti Rodney Parade. Ble’r oedd y cae criced yn Rodney Parade?’”

Os oedd angen rhagor o ysgogiad i atgyfodi rhan bwysig o hanes y clwb, diffyg gwybodaeth y capten am hanes ei dîm oedd yr ysgogiad hwnnw.

Ychwanegodd Knight, “Ar ddiwedd y noson honno, roedden ni’n teimlo bod angen i ni wneud rhywbeth i warchod traddodiad a hanes y clwb. Doedd gan y bois ifainc ddim clem fod yna orffennol yn Rodney Parade. A dyna ddechrau’r syniad o adeiladu amgueddfa i goffáu Rodney Parade.”

Y cam cyntaf i’r criw brwd a aeth ati i gasglu eitemau ar gyfer yr amgueddfa newydd oedd penderfynu beth oedd uchafbwyntiau 125 o flynyddoedd o griced yng Nghasnewydd. Ble i ddechrau? Batiad o 302 gan Wally Hammond i Swydd Gaerloyw yn 1939, a batiad cyfatebol o 287 heb fod allan gan Emrys Davies yn yr un ornest? Mae’r hanes yn rhan o gasgliad sy’n enwi’r chwaraewyr sydd wedi sgorio canred dwbl yng Nghasnewydd.

A beth am Brian Close a Len Hutton yn chwarae i Swydd Efrog yn 1949? Trevor Bailey yn cipio hat-tric i Swydd Essex yn 1950? Mae lle iddyn nhw hefyd ymhlith trysorau’r amryw gasgliadau. Ond darn bach o’r hanes yn unig yw’r rheiny. Rhaid mynd yn ôl i’r dechrau’n deg, ac i ddechreuadau criced yng Nghasnewydd, i werthfawrogi’r casgliad yn ei gyfanrwydd.

Yn ôl i’r dechrau’n deg


Yr Arglwydd Tredegar

Mae llinell amser sy’n ganolbwynt i’r amgueddfa’n dangos mai yn 1834 y daeth criced i Gasnewydd am y tro cyntaf, a’u bod wedi ymgartrefu yn Shaftesbury am y deugain mlynedd nesaf. Dan nawdd y bragwyr, y brodyr Phillips y cafodd clwb Athletaidd Casnewydd ei sefydlu, ac fe wnaethon nhw gyfrannu £750 at godi pafiliwn newydd ar droad yr ugeinfed ganrif. O fewn dwy flynedd i sefydlu clwb Athletaidd Casnewydd, symudodd y tîm criced i Shaftesbury ac i dir oedd yn eiddo’r Arglwydd Tredegar. Ymhlith y sêr cynharaf i chwarae ar y cae newydd roedd un o’r cricedwyr enwocaf erioed, W.G. Grace. Ar droad y ganrif, roedd gan y clwb dri chwaraewr proffesiynol blaenllaw eu hunain, sef Edwin Diver, Dick Steeples ac Arthur Silverlock, triawd oedd yn rhan hanfodol o lwyddiant cynnar y clwb.


Sêr y clwb – y gorffennol a’r dyfodol


Rhai o'r chwaraewyr sydd wedi chwarae i Forgannwg

Os oedd y triawd hwn yn ganolog i sefydlu’r tîm yn gadarn yng Nghymru, roedd un dyn yn gyfrifol am roi enw Clwb Criced Casnewydd ar y llwyfan rhyngwladol. Jim McConnon yw’r unig chwaraewr yn hanes y clwb i ennill cap i Loegr. Mae lle teilwng i’w orchestion yntau, wrth iddo gael ei ddewis yn lle’r troellwr Jim Laker yn 1954. Ond mae lle hefyd i un arall o gricedwyr rhyngwladol llai adnabyddus y clwb – brawd Mike Knight, Dave. Cynrychiolodd Knight dîm Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1979 mewn gornest yn erbyn Sri Lanca.

Ers hynny, mae nifer o chwaraewyr y clwb wedi mynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg yn y gêm sirol, gan gynnwys Phil North, Martin Roberts, Ian Thomas a Huw Waters.  Ac mae Mike Knight yn ffyddiog y bydd y traddodiad hwnnw’n parhau am flynyddoedd i ddod.

“Ry’n ni bob amser wedi cynhyrchu llawer o chwaraewyr ifainc sydd wedi chwarae i dimau Cymru a Morgannwg. Mae Mike Claydon wedi bod yn chwaraewr sylweddol i Gasnewydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod ei ddyddiau gyda Morgannwg wedi hen fynd heibio. Fe yw canolbwynt y clwb ac mae e’n arweinydd dylanwadol.

“Mae’r tîm yn gryf ar hyn o bryd, ond mae’n dîm ifanc gyda nifer o chwaraewyr yn cynrychioli timau ieuenctid Cymru ac ail dîm Morgannwg. Pwy fydd y chwaraewr mawr nesaf, wn i ddim. Ond mae nifer ohonyn nhw’n brwydro i wneud hynny.”

Un o sêr y dyfodol, yn ôl Knight, yw Imran Hassan, batiwr ifanc sydd ar gyrion carfan Morgannwg ac un a fyddai wedi bod yn brwydro am le yn y tîm cyntaf oni bai am broblemau’n cymhwyso ar gyfer pasport Prydeinig yn ei feddiant.

“Byddai Imran yn hoffi mynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg fel chwaraewr llawn amser. Dw i ddim yn siŵr ar hyn o bryd a fydd hynny’n bosib. Ond mae Imran yn chwaraewr o’r radd flaenaf a dw i’n siŵr y gallai e fod yn gricedwr sirol da.”

Y cylch yn gyflawn


Model o Glwb Criced Casnewydd fel yr oedd ddechrau'r 1990au

Mae un darn bach o’r jig-so’n weddill ac fe fu’n rhaid aros tan ddechrau’r mis yma er mwyn cysylltu gorffennol Clwb Criced Casnewydd gyda’i bresennol. Un aelod o garfan Swydd Efrog ar y diwrnod olaf hwnnw yn Rodney Parade yn 1990 oedd y bowliwr cyflym Peter Hartley. Trwy gyd-ddigwyddiad – neu “weithred sy’n fwy na ffawd”, chwedl Mike Knight – Hartley oedd un o’r dyfarnwyr pan ymwelodd Pacistan ‘A’ â’r clwb yn ddiweddar.

“Allen ni ddim cweit credu’r peth. Ar y daflen gydag enwau’r chwaraewyr, ar y batiau oedd wedi’u llofnodi ac ar y poster o’r gêm olaf honno yn Rodney Parade… roedd Peter Hartley arnyn nhw.

“Wrth i griced dosbarth cyntaf ddychwelyd i Barc Spytty ar ôl chwarter canrif, roedd yn gyd-ddigwyddiad anhygoel mai’r dyfarnwr oedd Peter Hartley.”

Am y tro, mae’r clwb yn gobeithio gweld criced dosbarth cyntaf yn dychwelyd i’r ddinas unwaith eto ac mae’r arwyddion cynnar gan Glwb Criced Morgannwg yn awgrymu bod hynny’n bosibilrwydd cryf.

Rhaid i’r gair olaf fynd i Mike Knight.

“Pan wnaethon ni adael Rodney Parade yn 1990, doedd neb yn credu y bydden ni’n gweld criced sirol yng Nghasnewydd byth eto. Ry’n ni wedi gweithio’n galed dros ben dros y chwarter canrif diwethaf i droi Parc Spytty’n gae da iawn.

“Byddai cael dod yn rhan gyson o galendr criced sirol yn hollol wych. Wnaeth pawb fwynhau’n ddiweddar ac roedd pawb yn y clwb wrth eu bodd. Aeth popeth yn wych. Gobeithio’n bod ni wedi creu argraff ar gwpwl o bobol, pwy a ŵyr?”

Oriel luniau: Amgueddfa Clwb Criced Casnewydd

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers