Llys y Goron Southwark
Mae cyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum wedi dweud ei fod yn glynu wrth y dystiolaeth a roddodd yn erbyn ei gydwladwr Chris Cairns mewn achos llys.

Yr wythnos diwethaf, cafwyd Cairns yn ddieuog o ddweud celwydd ar lw yn ystod achos llys arall yn erbyn cyn-bennaeth yr IPL (Indian Premier League), Lalit Modi.

Roedd Modi wedi cyhuddo Cairns o drefnu canlyniadau gemau.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Southwark yn Llundain, dywedodd McCullum ei fod wedi cael cais gan Cairns yn 2008 i gymryd rhan yn y broses o drefnu canlyniadau gemau rhyngwladol Seland Newydd.

Wrth amddiffyn Cairns, dywedodd ei gyfreithwyr fod McCullum wedi cymryd tair blynedd i roi gwybod i’r awdurdodau am y sgwrs rhwng y ddau, ac yna ei fod e wedi gwrthddweud ei hun yn ddiweddarach.

Dywedodd McCullum wrth gynhadledd i’r wasg ar drothwy’r gyfres rhwng Seland Newydd a Sri Lanca nad yw’n credu bod y dyfarniad yn erbyn Cairns yn pardduo’i enw yntau.

Mewn erthygl yn y wasg yn Seland Newydd, gofynnodd Cairns i McCullum pam ei fod wedi achosi “poen a dioddefaint” i’w deulu.

Dywedodd McCullum nad yw’n bwriadu ateb y cwestiwn na thrafod y mater gyda Cairns.

“Dw i ddim yn credu bod rhaid i fi wneud hynny. Ro’n i’n gyfforddus iawn gyda’r dystiolaeth wnes i ei rhoi yn Llundain ac rwy’n glynu wrth y dystiolaeth honno hefyd.

“Nid dyma’r fforwm i drafod y math yma o beth. Dw i ddim yn credu bod fy enw da yn y fantol, ro’n i’n un o nifer o dystion.

“Mae gan bobol eu barn eu hunain am yr hyn a ddaeth i’r amlwg ond rwy’n gyfforddus gyda hynny ac mae’n amser canolbwyntio ar rywfaint o griced nawr.”

Mae lle i gredu bod Lalit Modi yn ystyried dwyn achos sifil yn erbyn Chris Cairns, ac fe allai McCullum orfod rhoi tystiolaeth yn ei erbyn unwaith eto.

Bydd Modi yn dadlau bod yr awdurdodau’n ymwybodol o dystiolaeth McCullum pan gafodd yr achos gwreiddiol ei gynnal ond nad oedd y wybodaeth honno ar gael i Modi er mwyn iddo gael dadlau ei achos.