Wrth edrych yn ôl dros dymor Clwb Criced Morgannwg yn 2015, mae’n bosib y bydd y digwyddiadau oddi ar y cae yn fwy cofiadwy na rhai o’r perfformiadau ar y cae.

Roedd gorffen yn bedwerydd yn ail adran y Bencampwriaeth yn un o’r uchafbwyntiau, ond tymor digon siomedig gafodd y Cymry yn y cystadlaethau undydd. Fe gollon nhw ornest T20 dyngedfennol yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd a gafodd ei chwtogi i bum pelawd yr un, gan olygu nad oedden nhw wedi llwyddo i gyrraedd yr wyth olaf.

Cafodd Morgannwg ddechrau cryf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London, ond daeth y gystadleuaeth i ben dan gwmwl. Cafodd eu gornest yn erbyn Swydd Hampshire, a gafodd ei darlledu’n fyw gan Sky Sports, ei therfynu ar ôl llai na saith pelawd o’r ail fatiad wrth i’r dyfarnwyr benderfynu bod y llain yn rhy beryglus. Arweiniodd yr helynt at golli pwyntiau, dirwy a ffarwelio â’r prif dirmon Keith Exton, oedd wedi ennill cryn ganmoliaeth am baratoi llain ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw ychydig wythnosau ynghynt.

Roedd y Lludw’n gyfle da i Forgannwg brofi y gall Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf. Roedd y digwyddiad yn hwb sylweddol i Forgannwg yn wyneb beirniadaeth lem ar ôl i Gyngor Caerdydd orfod camu i mewn i ddileu dyledion y clwb.

Fe fu’r prif hyfforddwr Toby Radford wrth y llyw ers dau dymor bellach. Onid y rheolwr pêl-droed Luis van Gaal a ddywedodd, “Judge me on my second season”? O dan arweiniad Radford, roedd tîm Morgannwg wedi cryfhau yn ystod yr ail dymor hwnnw, ac mae arwyddion fod y clwb yn dechrau codi o’r gwaelodion i fod yn gystadleuol ym mhob un o’r cystadlaethau erbyn hyn.

Cafodd y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn ar ddiwedd y tymor, a hynny wedi iddo sgorio 1,160 o rediadau, gan gynnwys 842 o rediadau dosbarth cyntaf, a chipio 60 o wicedi ym mhob cystadleuaeth. Ond daeth ei awr fawr gyda’r bat yn Guildford pan darodd 200 yn erbyn Swydd Surrey yn y Bencampwriaeth.

Fe fu Golwg360 yn holi cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Alan Jones am ei argraffiadau o’r tymor aeth heibio.

Y Bencampwriaeth

“Dechreuon nhw’n arbennig o dda ar ddechrau’r tymor. Collon nhw eu ffordd tipyn bach hanner ffordd drwy’r tymor. Wedyn ffaelon nhw bigo’u hunain lan o gwbl tan y diwedd. Wnaeth cwpwl o’r chwaraewyr golli ‘form’ mewn ffordd – Will Bragg yn cael dechrau da i’r tymor ond wedyn ddim yn gorffen cystal.

“Nage hanner tymor mae rhaid i ti chwarae’n dda, mae rhaid i ti chwarae’n dda drwy’r tymor. Ar ol dweud hynny, dim ond 14 o chwaraewyr proffesiynol sydd gyda nhw sy’n ddigon da i chwarae yn y tim cyntaf. Academi yw’r lleill. Mae rhaid i ti fod yn lwcus hefyd, yn enwedig gyda bowlwyr, bo nhw’n cadw’n ffit drwy’r tymor.”

Enillydd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, Graham Wagg

“Mae Graham Wagg wedi cael tymor arbennig o dda. Doedd e erioed wedi erfyn y bydde fe’n sgorio dau gant pan o’dd e’n batio. Mae e wedi bod yn batio pan mae Morgannwg wedi bod mewn trwbwl cwpwl o weithiau’r tymor hyn sy wedi mynd. Mae Graham Wagg ar y diwedd wedi’u cael nhw mas o drwbwl. Mae e wedi cael tymor arbennig o dda gyda’r bat a dwi’n falch fod e wedi ennill chwaraewr y tymor.”

Cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast

“Mae rhaid i fi fod yn onest. Ry’n ni’n cael llawer iawn mwy o law yng Nghymru nag yn Lloegr. Ro’dd hyn yn digwydd pan o’n i’n chwarae. Pan o’n i’n chwarae, ro’dd hi lawer mwy rhwydd sgorio rhediadau i ffwrdd o Forgannwg oherwydd ro’dd y wicedi tipyn yn well, oherwydd bo ni’n cael shwd gymaint o law yng Nghymru. Yn enwedig yn y gemau ugain pelawd, os wyt ti’n colli mwy nag un gem oherwydd y glaw, mae’n golled fawr.” 

Cystadleuaeth 50 pelawd Royal London, cyflwr y llain, a ffarwelio â’r prif dirmon Keith Exton

“Ro’n i lan yng Nghaerdydd yn gwylio’r gem yn erbyn Swydd Hampshire, a dyna lle droeodd y tymor i ddweud y gwir. O’n nhw’n gwneud yn dda lan hyd at y gem hynny, gallen nhw fod wedi ennill y gem a byddai siawns dda gyda nhw. Yn anffodus, ro’dd beth ddigwyddodd gyda’r llain ddim yn ddigon da yn bechod.

“Mae Morgannwg wedi gwneud popeth yn iawn. Mae’n meddwl cymaint i’r clwb pan y’ch chi’n gwneud yn dda drwy’r tymor. Os wyt ti’n colli gem oherwydd fod y llain ddim digon da, mae’n bechod. Mae rhaid dweud, ro’n i’n flin am chwaraewyr Morgannwg a’r clwb yn gyfan gwbl.

“Pan wyt ti’n rhedeg clwb fel Morgannwg, neu unrhyw glwb, mae’n bwysig bo ti’n cael y llain a phopeth arall i weithio fel rwyt ti’n moyn. Amser o’n i’n chwarae, o’n ni’n chwarae llawer mwy o gemau yng Nghaerdydd a San Helen. Fel capten, o’t ti’n dweud wrth George Clement, o’dd yn edrych ar ol y cae pan o’n i’n chwarae, pa siort o wiced o’t ti’n moyn. Pan o’t ti’n cyrraedd y cae yn y bore, o’dd y llain fel o’t ti wedi gofyn i George ei chael hi. Mae’n bwysig, ta pwy sy’n edrych ar ol unrhyw gae, pan mae’r capten yn gofyn i ti am lain gyflym neu llain araf, mae’n bwysig bo nhw’n gwneud hyn a bod y llain yn iawn pan wyt ti’n cyrraedd y cae ar fore’r gem.

“Smo nhw’n chwarae gymaint o gemau nawr ag o’n ni’n chwarae, yn enwedig gemau tri neu bedwar diwrnod. Pan wyt ti’n edrych ar y cae yng Nghaerdydd, mae’r sgwar yn fawr iawn. Ddyle fod dim problem o gwbl.

Perfformiadau Morgannwg o dan arweiniad y prif hyfforddwr, Toby Radford

“Mae pethau wedi gwella. Maen nhw wedi codi lan yn y Bencampwriaeth i fod yn bedwerydd o’r top. Mae’r gemau undydd wedi bod yn well. Mae Toby Radford wedi gwneud gwelliant i’r tim. Nage dim ond Toby Radford sydd wedi gwneud hyn. Mae e wedi cael tipyn o help gyda’r hyfforddwyr eraill. Ro’n nhw’n llawer gwell ac maen nhw wedi cael tymor gwell eleni na’r ddwy neu dair blynedd diwethaf.”

Agweddau i’w gwella’r tymor nesaf

“Dwi’n meddwl bod eisiau bowlwyr cyflym arnon ni. Mae eisiau rhywun i helpu Hogan achos fe yw prif fowliwr cyflym Morgannwg. Licen i weld mwy o chwaraewyr ifanc o Gymru’n dod trwyddo. Ry’n ni wedi gweld bod Andrew Salter a Kieran Bull fel troellwyr, ond mae eisiau cwpwl o fowlwyr cyflym arnon ni i helpu, a gobeithio bod cwpwl o fois ifanc Cymru’n mynd i ddod trwyddo. Nage dim ond hynny, ond mae eisiau batwyr hefyd i ddod trwyddo o Gymru. Bois Cymru ry’n ni moyn yn y tim, a bydda i’n falch pan fydda i’n gallu gweld llawer mwy o fois Cymru’n dod trwyddo i chwarae i Forgannwg.”

Alun Rhys Chivers