Mae bowliwr cyflym Awstralia, Mitchell Johnson wedi dweud na fydd Lloegr yn gallu osgoi’r demtasiwn o gymryd rhan mewn rhyfel geiriol pan fydd y prawf cyntaf yng Nghaerdydd yn dechrau.

Bydd gelynion penna’r byd criced yn mynd benben yn y Swalec SSE ar Orffennaf 8, ac mae capten Lloegr, Alastair Cook eisoes wedi dweud bod gan ei dîm gyfrifoldeb i ymddwyn yn briodol yn ystod y gyfres.

Mae bowliwr cyflym Lloegr, Jimmy Anderson wedi dweud ei fod yn gobeithio efelychu Seland Newydd yn ystod Cyfres y Lludw, a chanolbwyntio ar y criced yn hytrach na sylwadau’r gwrthwynebwyr.

Ond mae Mitchell Johnson wedi wfftio sylwadau Anderson.

“Mae hynny’n [sylw] diddorol ganddo fe gan mai fe yw un o’r rhai mwyaf [am anelu sylwadau sarhaus] yn nhîm Lloegr.

“Dw i ddim yn credu y bydd unrhyw beth yn newid.

“Mae e jyst yn trio dweud y peth yn agored er mwyn gwneud i’w hun edrych yn well.”

Johnson v Anderson

Mae Johnson ac Anderson wedi ffraeo ar y cae droeon, ac fe gafodd sylwadau sarhaus eu cyfnewid gan Johnson a batiwr Lloegr, Ben Stokes yn ystod Cyfres y Lludw yn 2013.

Ond mae’r fath ddigwyddiadau’n rhan o’r byd criced, yn ôl Johnson.

“Ry’n ni’n hoff o rywun sydd â bach o blwc a dyfalbarhad, gan roi ychydig o dân i’r gêm.

“Dyna mae pobol am ei weld mewn profion criced.

“Ydw i’n hoff ohono? Pwy sy’n hoff o ‘sledging’ bob dydd? Mae wedi bod yn rhan o’r gêm a dw i wedi cael fy nhargedu ym mhob cwr o’r byd?

“Nawr, mae profi hyn oll wedi fy ngwneud yn well fel chwaraewr ac fel person, dyna lle dw i’n credu ’mod i wedi gallu helpu’r bois iau sydd wedi bod trwy’r profiad hwnnw.”

Bydd Awstralia’n herio Swydd Essex yn Chelmsford ddydd Mercher, y tro olaf fyddan nhw’n ymddangos ar y cae cyn dechrau’r prawf cyntaf yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.