Tafwyl yng Nghaerdydd
Fe fydd tîm criced Lloegr yn ymweld â Gŵyl Tafwyl ac yn dysgu rhywfaint o Gymraeg wrth iddyn nhw ymlacio yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau cyn dechrau Cyfres y Lludw.

Fel rhan o arlwy chwaraeon yr ŵyl eleni fe fydd Cwpan Rygbi’r Byd hefyd yn cael ei arddangos yng Nghastell Caerdydd ar y dydd Sadwrn 5 Gorffennaf, wrth iddi deithio o amgylch Prydain.

Bydd yr ŵyl Gymreig flynyddol hefyd yn cynnwys gweithdai chwaraeon gyda Chymdeithas Rygbi Cymru, Golff Cymru, Cardiff City FC, Clwb Criced Morgannwg a wal ddringo yn cael ei redeg gan Boulders, gyda Chwaraeon yr Urdd yn rhedeg ardal chwaraeon Tafwyl eto eleni.

Cwrdd â’r cefnogwyr

Bydd Lloegr yn chwarae eu gêm brawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw yn erbyn Awstralia yng Ngerddi Soffia ar 8 Gorffennaf.

Cyn hynny fe fyddan nhw’n ymweld â Tafwyl dydd Sul rhwng 12yp ac 1yp, ac fe ddywedodd capten y tîm Alistair Cook fod y bechgyn yn edrych ymlaen at gael dysgu rhywfaint o Gymraeg yn ystod eu hymweliad.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â gŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd,” meddai capten criced Lloegr.

“Fel rhan o’n paratoadau ar gyfer gem brawf twrnament Investec Ashes yng Nghaerdydd, mae’r criw yn edrych ymlaen at gwrdd â’n cefnogwyr a dysgu ychydig o Gymraeg!”

Dod yn eu miloedd

Llynedd fe aeth bron i 19,000 o bobl i’r ŵyl yn y brifddinas, ac eleni mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn disgwyl agosach at 25,000 o bobl yno.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd Siân Lewis, sy’n trefnu Tafwyl, eu bod yn edrych ymlaen at ymweliad y cricedwyr.

“Mae chwaraeon yn rhan bwysig iawn o fywyd pobl Caerdydd – wrth wylio a chwarae,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn i ni felly fod yr ŵyl yn cynnig amrywiaeth o brofiadau a chyfleodd i blant ac oedolion gael mwynhau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ry’n ni hefyd wrth ein bodd bod tîm criced Lloegr yn dod i ymweld â ni i ddod i ddysgu mwy am y Gymraeg yng Nghaerdydd ac  i gynnig cefnogaeth i’r ŵyl hon cyn eu gem brawf.”