Codi arian at Ganolfan Canser Felindre
Bydd tîm criced cyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn gwisgo crysau a chapiau pinc ar gyfer eu gornest yn erbyn Ynysygerwn yn Uwch Gynghrair De Cymru fory.

Mae Pen-y-bont yn y pedwerydd safle, tra bod Ynysygerwn yn seithfed yn y tabl yn ystod tymor sydd wedi cael ei effeithio’n sylweddol gan y tywydd.

Bydd belen gyntaf yr ornest ar Gaeau Newbridge yn cael ei bowlio am 12.30yp, gyda’r elw’n mynd at Ganolfan Canser Felindre.

Bydd tîm Ynysygerwn yn gwisgo capiau pinc ar gyfer y gêm.

Mae carfan Pen-y-bont yn cynnwys chwaraewyr Cymru, Nick Davies a’r wicedwr Tom Baker, bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Alex Jones, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg Andrew Davies, sy’n gapten y clwb a seren Cyfres y Lludw 2005, y bowliwr cyflym Simon Jones.

Mae chwaraewr amryddawn Morgannwg, Ruaidhri Smith wedi chwarae i’r tîm y tymor hwn.

Capten Ynysygerwn yw cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Richard Grant ac mae’r garfan yn cynnwys bowliwr ifanc Morgannwg, John Glover.

Dydy chwaraewyr Morgannwg sydd wedi derbyn cap y sir ddim yn cael eu dosbarthu ymhlith timau Uwch Gynghrair De Cymru y tymor hwn.

Mae un o chwaraewyr ifanc Ynysygerwn, Matthew Hobden wedi cael cytundeb gan Swydd Sussex tan ddiwedd y tymor hwn.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig byrddau lletygarwch am £200 i grwpiau o ddeg o bobol ac fe fydd adloniant byw yn y nos.

Cost tocynnau ar gyfer y noson yw £5 y pen, ac fe fydd crysau-T a bandiau garddwrn ar gael i’w prynu.

Mae’r clwb yn annog pawb sy’n mynychu’r digwyddiad i wisgo rhywbeth pinc.

Gallwch gyfrannu at yr achos trwy fynd i’r wefan.