Mae angen dirfawr am gyfleusterau newydd ar Glwb Criced Lles Llai yn ardal Wrecsam.

Dyna neges y clwb mewn deiseb a fydd yn cael ei chyflwyno i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Dydyn ni ddim yn sôn am filiynau o bunnoedd – yn wahanol i’r swm anferth o godi Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd – ond mae’r clwb yn gofyn am nawdd er mwyn gallu cwblhau’r gwaith o adnewyddu hen bafiliwn ac i osod rhwydi ymarfer ar gyfer nifer o dimau.

Yn sgil poblogrwydd y clwb yn y gymuned leol, does dim lle bellach i gynnal sesiynau ymarfer ar gyfer y nifer o bobol sy’n mynd iddyn nhw.

Mae gan y clwb dîm cyntaf, ail dîm, tîm dan 13, tîm dan 11 a thîm dan 9.

Mae’n nhw’n cystadlu yng Nghynghrair Griced Gogledd Cymru, yn ogystal ag Uwch Gynghrair Ganol Wythnos Caer a’r Cyffiniau.

Mae 15 o’r chwaraewyr ifanc mwyaf disglair yn chwarae dros dimau Gogledd-ddwyrain Cymru.

Hanes y clwb

Mae Clwb Criced Lles Llai yn rhan annatod o hanes glofaol yr ardal.

Cafodd Prif Bwll Glo Llai ei adeiladu rhwng 1913 a 1922, gan ddechrau gwerthu glo ar raddfa helaeth erbyn 1923.

Erbyn canol y 1920au, roedd oddeutu 3,000 o weithwyr yn y pwll.

Roedd perchnogion y pwll wedi prynu’r les ar Neuadd Llai yn 1917 er mwyn rhoi cyfleoedd hamdden i’r gweithwyr, yn debyg i’r ffordd y cafodd clybiau criced a rygbi eu sefydlu yn ne Cymru.

Y cyfleuster hamdden cyntaf oedd cae bowlio yn 1923 ac fe ddechreuodd y gweithwyr chwarae yn erbyn nifer o weithwyr proffesiynol y dref, gan gynnwys offeiriaid a meddygon.

Daeth i’r amlwg erbyn 1926 fod angen gwella’r cyfleusterau ar gyfer nifer cynyddol o weithwyr gael eu defnyddio yn eu hamser hamdden.

O ganlyniad, cafodd Cronfa Les y Glowyr ei sefydlu’n unol â Deddf y Diwydiant Glofaol.

Talodd y perchnogion i godi adeilad presennol y Neuadd Les rhwng 1929 a 1931 – cafodd y gwaith, yn arwyddocaol iawn, ei gwblhau gan bensaer ac adeiladwr lleol.

Cafodd tirmon ei benodi i ofalu am y cyfleusterau hamdden helaeth, gan gynnwys y cae criced, ac fe dalodd y glowyr un ceiniog allan o’u cyflog i gynnal a chadw’r cyfleusterau.

Symudodd nifer o dimau chwaraeon i’r cyfleusterau newydd sbon.

Cafodd Clwb Criced Lles Llai – neu Prif Sefydliad Llai i roi ei enw gwreiddiol iddo – ei sefydlu ar ddechrau’r 1920au ac roedden nhw’n chwarae yng Nghynghrair Caer a’r Cyffiniau.

Y ddeiseb

Bellach, mae cyfleusterau’r clwb yn annigonol ac mae angen eu hailwampio er mwyn i’r genhedlaeth newydd gael datblygu ar eu cyfraniad i griced ar lawr gwlad yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae modd llofnodi’r ddeiseb yma.