Cricedwyr India'r Gorllewin
Yn yr ail ddarn mewn cyfres ar hunaniaeth genedlaethol ym myd chwaraeon, gohebydd golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n trafod anthem tîm criced India’r Gorllewin …

Fis diwethaf, fe ddangosodd yr helynt yn Kashmir tros gefnogaeth myfyrwyr y rhanbarth i dîm criced Pacistan sut gall gwleidyddiaeth rannu carfannau o bobol trwy fyd chwaraeon.

Ond yng ngwlad Bangladesh ar hyn o bryd, trwy gystadleuaeth Cwpan T20 y Byd, cawn weld ymdrechion i uno grŵp o ynysoedd sy’n wleidyddol ac yn ddiwylliannol wahanol i’w gilydd o dan un ymbarél, trwy greu anthem.

Rally Round …

Gadewch i ni fod yn glir. Dydy Rally Round the West Indies ddim yn anthem genedlaethol. Anthem griced yw hi. Fe’i cyfansoddwyd gan David Rudder, cerddor dull Calypso yn 1988.

Cyn mabwysiadu’r gân hon yn y blynyddoedd diwethaf, arferai’r tîm ganu ‘Forged from the Land of Liberty’ cyn gornestau. Hon oedd hen anthem Ffederasiwn India’r Gorllewin, a oroesodd am ychydig flynyddoedd rhwng 1958 a 1962, ond wnaeth hi ddim cydio yn nychymyg y bobol yn yr un modd â ‘Rally Round the West Indies’.

Bellach, gallwch weld rhai o’r chwaraewyr a’r hyfforddwr Ottis Gibson (gynt o Forgannwg) yn ei chanu. Dyma dystiolaeth, efallai, fod yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib yn dechrau tynnu’r ynysoedd ynghyd.

Mae gan bob ynys ei hanthem ei hun, ond doedd yr un ohonyn nhw’n addas i gynrychioli holl ynysoedd y Caribî. Y prif reswm am hyn yw hanes yr ynysoedd o dan reolaeth amryw ymerodraethau ar hyd y canrifoedd.

Rhaid edrych ar hanes y prif ynysoedd criced i ddeall y rhaniadau’n llawn, a’r angen i ffurfio anthem newydd.

Antigua

Bu’r ynys hon yn annibynnol o Brydain ers 1981. Bellach, mae ganddi ddwy anthem sy’n adlewyrchu amryw safbwyntiau gwleidyddol ei thrigolion.

‘Fair Antigua, We Salute Thee’ yw’r anthem swyddogol, ond mae ‘God Save The Queen’ yn cael ei chanu hefyd, gan adlewyrchu dylanwad yr Ymerodraeth Brydeinig drosti.

Barbados

Mae’r ynys hon yn rhan o grŵp y Lesser Antilles, ac roedd yn un o drefedigaethau Portiwgal ac wedyn Sbaen o ran ei gwreiddiau tan i Brydain gymryd rheolaeth drosti yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Bu’n annibynnol ers 1966 ond mae’n rhan o’r Gymanwlad o hyd. Anthem yr ynys yw ‘In Plenty and in Time of Need’.

Jamaica

Ynys Sbaenaidd oedd hon hefyd tan yr ail ganrif ar bymtheg, pan gipiwyd hi gan Brydain. Mae’n rhan o grŵp y Greater Antilles, ac mi ddaeth yn annibynnol yn 1962. Ei hanthem yw ‘Jamaica, Land We Love’.

Trinidad a Tobago

Gwlad dwy ynys ag iddi wreiddiau Sbaenaidd yw hon. Fe’i rheolwyd gan Sbaen o 1498 tan 1797, ac mi ddaeth y ddwy ynys o dan reolaeth Prydain yn swyddogol yn 1802.

Cawson nhw eu huno yn 1889, gan ddod yn annibynnol yn 1962, ac yn weriniaeth yn 1976. Un anthem sydd gan y ddwy ynys, sef ‘Forged from the Love of Liberty’.

Guyana

Mae Guyana yn wlad unigryw yng nghyd-destun y prif ynysoedd criced yn y Caribî gan nad yw hi’n ynys. Mae’n rhan o arfordir De America ond roedd yn drefedigaeth yr Iseldiroedd tan iddi ddod o dan reolaeth Ffrainc am gyfnod byr ac wedyn Prydain yn 1796.

Daeth yn annibynnol yn 1966 ac yn weriniaeth yn 1970, ac mae’n parhau’n rhan o’r Gymanwlad. Ei hanthem yw ‘Dear Land of Guyana, of Rivers and Plains’.

Ar ôl 1945

Wedi’r Ail Ryfel Byd buan y daeth nifer o’r prif ynysoedd yn annibynnol, gan gefnu ar eu hanes oedd wedi’i lywio gan bwerau gwleidyddol mawr y byd a chan bobol â chroen gwyn o’r gwledydd a oedd wedi sefydlu’r trefedigaethau.

Roedd y brodorion yn dechrau edrych i’r dyfodol ac i ddyfodol o undod. Dyna oedd y tu ôl i’r penderfyniad i sefydlu’r Ffederasiwn yn 1958.

Er gwaethaf methiant y Ffederasiwn yn 1962, parhaodd criced yn symbol o ddyhead India’r Gorllewin i dyfu’n wleidyddol ac yn ddiwylliannol.

Fel y dywedodd Tim Hector yn ei gasgliad o ysgrifau ar India’r Gorllewin (gol. Stephen Wagg, 2005), “The Federation had foundered and the nationalist dream had lived on principally through cricket”.

Dadleua Wagg hefyd fod cenedlaetholdeb wedi parhau y tu hwnt i 1962 trwy’r tîm criced cenedlaethol:

First and foremost, successive generations of West Indian cricketers were nationalists who saw the West Indies team as a flagship for independence and nascent nationhood.”

Yn ôl Hector, “cricket… can again become a beacon of West Indian nationalism”. Er mwyn gwireddu rhagdybiaeth Hector, rhaid wrth genedlaetholwyr yn y tîm criced cenedlaethol.

Yn ei hunangofiant dywedodd un o fawrion y byd criced yn y Caribî, Syr Garfield Sobers, fod rhaid symud oddi wrth yr “insularity that has crept back into West Indies cricket”.

Ond yn ôl Brian Lara yn ei hunangofiant ‘Beating the Field’, mae criced yn “one of the few unifying forces in the West Indies”.

Caiff sylwadau Lara eu gosod yng nghyd-destun ‘politics’ y panel dewiswyr cenedlaethol yn y Caribî, sy’n cael eu cyhuddo’n gyson o ffafrio rhai ynysoedd yn fwy na’i gilydd.

Yn ôl cricedwr enwocaf ynys Antigua, Syr Viv Richards, mae criced wedi dioddef oherwydd gwleidyddiaeth yn y Caribî.

Cyfeiria at ormod o “inter-island rivalry” ac at lwgrwobrwyo honedig y dewiswyr cenedlaethol, gan ddweud: “It is a serious problem when there are so many different cooks, and the first thing to suffer is the broth”.

Cyfeiria Syr Trevor McDonald yn ei gofiant i’r cyn-gapten Clive Lloyd at y rhaniad hwn ymhlith y dewiswyr, gan honni:

“…The consensus on team selection was only arrived at after the representatives of half a dozen islands had pressed the claim of their own national stars…”.

Yn hunangofiant y bowliwr cyflym, Courtney Walsh, ‘Heart of the Lion’, dywed ei asiant fod Walsh yn “one of the cricketers who has bridged that island rivalry”.

Ond efallai y daw’r sylw mwyaf cyflawn am (ddiffyg) undod y Caribî gan Joel Garner yn ei hunangofiant ‘Flying High’. Wrth sôn am rôl criced yn hunaniaeth genedlaethol ei bobol, dywed Garner:

“…It gives the stauncher supporters their sense of identity in a country composed of separate and disparate island states. It binds together a group of insular territories that, in the aftermath of an aborted attempt at federation, could find very little in the way of social glue.

Amser yn unig a ddengys a all anthem ‘genedlaethol’ greu ymdeimlad o berthyn i’r hyn y mae Benedict Anderson yn ei alw’n ‘gymuned ddychmygedig’.

Ond efallai i’r cefnogwr criced cyffredin mae llwyddiant ar y cae lawer iawn mwy tebygol o gyflawni’r swyddogaeth honno, wrth i India’r Gorllewin anelu i gadw’r tlws T20 yn y Caribî.

Dilynwch y linc i ddarllen blog cyntaf Alun yn y gyfres ar hunaniaeth genedlaethol ym myd chwaraeon: Kashmir, Criced a chapten Cymru. Gallwch hefyd ddilyn Alun ar Twitter ar @alun_rhys.