Geraint Thomas
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dweud y bydd tîm seiclo gwledydd Prydain yn cael llawer mwy o lwyddiant ar ôl iddo eu helpu i ennill y fedal aur yng nghystadlaethau Cwpan y Byd ym Manceinion.

Fe lwyddodd ef, Bradley Wiggins, Ed Clancy a Steven Burke guro tîm Seland Newydd yn y rownd derfynol gydag amser o 3 munud a 55.438 o eiliadau – ychydig tros 2 eiliad yn arafach na record y byd.

Dim ond pythefnos o ymarfer yr oedd Geraint Thomas a Bradley Wiggins wedi ei gael cyn y gystadleuaeth ar ôl canolbwyntio ar seiclo ffordd gyda Team Sky.

Fe ddywedodd Thomas wedyn y gallai’r tîm berfformio ddwywaith yn well nag a wnaethon nhw yn erbyn Seland Newydd.

Fe fydd y Cymro yn dychwelyd i rasys ffordd tan yr hydref cyn dechrau canolbwyntio ar y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

“Mae yna lawer mwy i ddod. Rwy’n hapus i fynd mor gyflym â hynna,” meddai. “Does dim llawer o dimau wedi mynd mor gyflym â hynna.

“Ond r’yn ni am wthio ein hunain trwy’r amser. O fis Hydref ymlaen fe fyddwn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar Lundain.”