Higgins yn ennill pencampwriaeth y byd
Bythefnos ar ôl marwolaeth ei dad o ganser, fe lwyddodd John Higgins i ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ar ôl curo Stephen Maguire 9-6 yn y rownd derfynol.

Ar ôl y gêm yng  Nghasnewydd, fe ddywedodd pencampwr y byd bod y fuddugoliaeth yn deyrnged i’w dad ac y byddai ef a’i deulu’n codi gwydr iddo.

Roedd Maguire wedi rheoli’r chwarae yn y sesiwn agoriadol ond fe fethodd â manteisio’n llawn ar hynny. Roedd methu coch bwysig yn golygu ei fod hefyd wedi methu â mynd 6-2 ar y blaen.

Yn lle hynny dim ond o 5-3 yr oedd Higgins ar ei hôl hi ac fe aeth yn ei flaen i ennill y pedair ffrâm nesaf i arwain 7-5 cyn yr egwyl nesa’.

Fe drawodd Maguire yn ôl gyda sgôr o 75 i ennill y drydedd ffrâm ar ddeg, ond Higgins a gafodd y gair olaf gyda’r ddwy ffrâm nesaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.

‘Ffeinal wych’

“Ro’n i’n meddwl ei bod yn ffeinal wych. Roedd Stephen yn chwarae’n well ond roeddwn i wedi gallu cadw’r sgôr i 5-3,” meddai John Higgins.

“Roedd rhaid i mi ddibynnu ar Stephen i fethu ambell bêl ac ro’n i wedi llwyddo i aros yn y gêm ac yna ennill cyfres o fframiau yn olynol.”

Dyma’r trydydd tro i John Higgins ennill y bencampwriaeth yn dilyn llwyddiannau yn 2000 a 2010.