Pencampwr y byd - John Higgins
Nid Cymro fydd yn enill Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ar ôl i Matthew Stevens golli 5-3 i bencampwr y byd.

Fe roddodd y chwaraewr o Gaerfyrddin berfformiad da yn y rownd gynderfynol gan ddod yn gyfartal gyda John Higgins ar 3-3 cyn colli cyfle yn y ffrâm olaf ond un.

Ar ôl y gêm, fe ddywedodd Stevens ei fod yn teimlo y gallai’r ornest fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall.

Roedd wedi dechrau’n dda trwy ennill y ffrâm cyntaf gyda rhediad o 77 ond fe drawodd Higgins yn ôl i fynd 3-1 ar y blaen, gan gynnwys un rhediad o 132.

Tro Stevens oedd cryfhau wedyn gyda rhediadau o 93 a 58 yn cipio dwy ffrâm cyn i Higgins ddal ei dir a chyrraedd y rownd derfynol.

Pe bai Stevens wedi ennill, fe fyddai wedi cael ei le yn ôl yn 16 ucha’r byd.