Ryan Day
Fe fydd un Cymro yn sicr o gyrraedd rowndiau cynderfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.

Fe fydd Ryan Day a Matthew Stevens yn wynebu’i gilydd heddiw ar ôl i Day gael buddugoliaeth fawr yn erbyn chwaraewr gorau’r byd.

Fe lwyddodd i guro Ronnie ‘Y Rocet’ O’Sullivan o 4 – 2 yn rownd yr 16 ola’ yng Nghasnewydd gan sicrhau gêm gogynderfynol yn erbyn ei ffrind mawr.

Roedd wedi sgorio dau rediad o 100 i fynd ar y blaen o ddwy ffrâm cyn i O’Sullivan dynnu pethau’n ôl i 3-2.

Ond fe lwyddodd y Cymro i ennill ffrâm ola’ flêr ac fe ddywedodd wedyn ei fod yn edrych ymlaen at yr ornest nesa’, er bod Stevens hefyd yn cael cyfnod da.

Fe fydd Mark Williams hefyd yn ceisio cyrraedd yr wyth ola’ yn ddiweddarach heddiw.