Mark Williams yw’r Cymro diweddara i gyrraedd rownd yr 16 ola ym Mhencampwriaeth Agored Wildcrest Parkhomes Cymru. Cymerodd llai na hanner can munud i guro Marco Fu o bedair ffram i ddim.

Mae nawr yn y rownd nesa gyda’i cyd-Gymry, Matthew Stevens a Ryan Day. Mae’r Cymro arall, Dominic Dale, wrthi’n chwarae ar hyn o bryd. Mae’n gyfartal dwy ffram yr un rhyngddo fe a Peter Ebdon.

Mae Mark Williams yn parhau i ddangos y gallu sydd wedi mynd ag e nol at rhif 2 yn y byd. Yn gynharach eleni, enillodd bencampwriaeth yr Almaen. Fe yw’r unig Gymro i ennill Pencampwriaeth Cymru ac mae wedi gwneud hynny ddwywaith.

Dywedodd Mark Williams ei fod yn hen bryd i’r Cymry greu argraff yn y gystadleuaeth Gymreig, gan nad ydyn nhw wedi gwneud hynny ers rhai blynyddoedd.