John Higgins
Mae Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru wedi dechrau yng Nghasnewydd bore yma ac mae pedwar Cymro yn gobeithio gwneud eu marc yn eu mamwlad.

Gêm enillydd y bencampwriaeth y llynedd, John Higgins, yn erbyn Jack Lisowski fydd yn denu prif sylw’r camerâu teledu wrth iddi ddechrau am 2pm heddiw.

Diddordeb Cymreig

Er hynny, mae digon o ddiddordeb Cymreig yn y bencampwriaeth hefyd, a hynny’n dechrau heddiw gyda gemau rhagbrofol Mathew Stevens a Ryan Day.

Mae Stevens, sy’n rhif 21 yn y byd, yn herio Anthony Hamilton (rhif 34) am 1pm heddiw.

Mae gêm ragbrofol Ryan Day o Bontycymmer yn un o ddiddordeb wrth iddo herio’r bytholwyrdd Jimmy White gyda’r enillydd i chwarae Ronnie O’Sullivan yn y rownd nesaf.

“Bydd yr awyrgylch yn siŵr o fod yn wych gan bod Jimmy’n un o chwaraewyr mwyaf poblogaidd y gêm,” meddai Day wrth 110sport.tv.

“Dwi wastad yn edrych ymlaen i chwarae yng Nghasnewydd gan ei bod yn neis i chwarae o flaen torf gartref” ychwanegodd y Cymro 30 oed sy’n rhif 24 yn rhestr detholion y byd.

Cymry eraill i chwarae ar yr ail ddiwrnod

Fe fydd y ddau Gymro arall sy’n cystadlu yn y bencampwriaeth yn dechrau eu hymgyrchoedd yn y rownd gyntaf yfory.

Y gobaith gorau i gael Cymro’n bencampwr eleni yw rhif 2 y byd, Marc Williams sydd â gêm galed yn erbyn rhif 15 y bydd, Marco Fu am 1pm yfory.

Mae Williams yn dod i Gasnewydd mewn hwyliau da wedi iddo ennill pencampwriaeth Meistri’r Almaen ym Merlin yr wythnos diwethaf.

Y Cymro arall sy’n cystadlu yw Dominic Dale sy’n herio rhif 12 y byd, Peter Ebdon am 2pm yfory.