Bydd Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd a Thra Phell y Gymanwlad yn cael eu cynnal yn y Gogledd rhwng 23 a 25 Medi eleni.

Hwn fydd y digwyddiad athletau rhyngwladol uchaf ei broffil sydd wedi’i gynnal yng Nghymru ers Gemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958.

Caiff y digwyddiad ei gynnal mewn tri lleoliad yn y Gogledd-orllewin – Llandudno, Llanberis (Eryri) a Fforest Niwbwrch, Ynys Môn. 

Mae’r digwyddiadau’n cynnwys rasys mynydd, rasys tra phell (digwyddiad 24 awr) a rhedeg ar hyd llwybrau (50+ km oddi ar y ffordd) i ddynion a menywod . 

Mae disgwyl i dros 25 o wledydd yn y Gymanwlad a thros 200 o’r athletwyr gorau yn y byd gystadlu ym Mhencampwriaethau 2011 yng Ngogledd Cymru.

Bydd yr athletwyr blaenllaw sy’n cystadlu yn y ras 24 awr yn cwblhau oddeutu 240-260km o fewn y 24 awr.

Yn ystod y penwythnos, bydd rhaglen lawn o rasys agored, sydd ychydig yn llai dwys, ar draws disgyblaethau rhedeg ar y ffordd, rhedeg mynydd a rhedeg ar hyd llwybrau, ar gyfer yr athletwyr lleol a’r ‘twristiaid rhedeg’ sy’n dod o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt. 
‘Delfrydol’

Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft arall o sut mae Cymru’n gwneud gwir wahaniaeth drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr,” meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones. 

“Yr hyn sy’n drawiadol ynglŷn â’r digwyddiad hwn yw’r ffordd y mae ei elfennau’n cyd-fynd yn berffaith â’r dirwedd ysblennydd leol, ac mae Llandudno, fforest Niwbwrch ac Eryri yn rhoi her lethol berffaith i’r cystadleuwyr.

“Yn ogystal, bydd y rhaglenni teledu a gaiff eu darlledu ledled Prydain a’r byd yn atgoffa’r rheini sy’n gwybod ac yn lledaenu’r neges ymhlith y rheini nad ydyn nhw’n gwybod eto fod Gogledd Cymru yn lle gwirioneddol ddelfrydol i gynnal digwyddiadau chwaraeon a hamdden yn yr amgylchedd awyr agored.” 

‘Croesawu’

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Clive McGregor wedi croesawu’r cyhoeddiad.  

“Rydyn ni ar Ynys Môn wrth ein boddau o fod yn chwarae ein rhan yn y digwyddiad athletau mwyaf sydd wedi’i gynnal yng Ngogledd Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r athletwyr gorau o bob rhan o’r Gymanwlad i’r ynys wrth iddyn nhw gystadlu yn amgylchedd ysblennydd Fforest Niwbwrch.”