Mark Williams
Mae’r Cymro, Mark Williams, bellach yn ail ar restr snwcer y byd ar ôl ennill Pencampwriaeth yr Almaen.

Ac roedd hi’n fuddugoliaeth anarferol – y tro ola’ i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, yn 1998, roedd Williams yn ail i John Parrot.

Y tro yma, fe lwyddodd i guro Mark Selby o 9-7 er iddi fynd yn agos iawn ar un adeg.

Roedd y Cymro wedi mynd ar y blaen o 5-3 ac wedyn 7-4 cyn i Selby ennill tair ffrâm yn olynol i’w gwneud hi’n 7-7.

Ond fe enillodd Mark Williams y nesa’ ac wedyn cael rhediad o 82 i gipio’r ffrâm ola’. Fe sgoriodd ddau rediad o fwy na 100 yn y rownd derfynol.