Mae tri o chwaraewyr tramor y Crusaders yn cael problemau fisa llai na phythefnos cyn i dymor newydd y Super League ddechrau.

Mae Rhys Hanbury, Frank Winterstein a Hep Cahill yn Awstralia yn aros i gael yr hawl i deithio i’r Deyrnas Unedig.

Fe allai’r broblem olygu bod hyfforddwr y clwb Cymreig, Iestyn Harries heb y tri ohonynt ar gyfer gêm agoriadol y tymor newydd

Mae’r Crusaders eisoes wedi cael problemau fisa yn y gorffennol gyda chwech o’u chwaraewyr yn cael ei alltudio yn 2009.

Ond mae Iestyn Harries wedi dweud bydd digon o chwaraewyr gydag ef ar gael i chwarae.

“Fe fydd mwyafrif y garfan ar gael – fe fydd gennym ni tua 24 o chwaraewyr i ddewis,” meddai Iestyn Harries.

Fe fydd y Crusaders yn dechrau’r tymor newydd yn erbyn Salford yn Stadiwm y Mileniwm ar 13 Chwefror fel rhan o Millennium Magic.