Mewn gêm hynod o gyffrous, cipiodd y New York Giants y Superbowl yn  oriau mân y bore.

Roedd y gêm yn y fantol wedi i’r amser chware gwpla, gyda Tom Brady, Quarterback y Patriots  yn taflu ‘Hail Mary’ anferth i geisio cipio’r gêm yn ôl.

Mae’n cael ei hystyried yn barod yn glasur o Superbowl.

Ffans

Roedd Rhodri Hampson-Jones, 34, o Gaerdydd yn gwylio’r ornest o dafarn ‘Hooters’ yng Nghaerdydd.

Mae wedi bod yn dilyn pêl-droed Americanaidd ers dros ugain mlynedd.

Roedd ‘Hooters’ yn orlawn, meddai.

“Ma’r awyrgylch yn ‘Hooters’ yn ddwl. Ma’n llawn ffans NFL, a’r staff yn hollol gefnogol.”

Y chwarter olaf

Roedd y gêm ar gael i’r naill dîm wrth i’r chwarter ddechrau, er mai’r Patriots oedd y ffefrynnau ers cyfnod hir.

Y ddau Amddiffyn fuodd yn rheoli’r gêm, gyda’r Giants yn pwyso’n drwm ar Brady, a’r  Patriots yn rheoli wrth geisio sicrhau na allai Manning reoli’r gêm trwy ei basio.

Ond roedd Manning yn anodd i’w gadw’n dawel, a taflodd bas hir hynod a chofiadwy i Mannignham ar yr asgell.

Gwnaeth  Manningham wyrthiau i ddal y bêl a rhoi ei draed lawr cyn i ddau foi anferth blin ei fwrw e mewn i wythnos nesaf.

Yn syth ar ôl gweld y bas rhyfeddol, roedd y sylwebyddion yn honni byddai’r bas arbennig yma yn cael ei thrafod  am flynyddoedd i ddod.

Ar y pryd, roedd y Giants ar eu llinell 12 llath eu hunain, gyda’u cefnau i’r wal. Erbyn diwedd y bas, roedd y Superbowl bron ar ben, a Manning yn arwr eto.

Manning yn torri calonnau’r Gwladgarwyr

Pedair blynedd yn ôl roedd Manning yn cael y clod am chwalu’r Patriots yn Super Bowl 42. Roedd yna elfen gref o ‘deja vu’ wrth i Manning rhacso breuddwydion y Patriots unwaith yn rhagor.

Eli Manning gafodd ei enwi’n MVP wedi’r gêm, yn dilyn yr un wobr yn 2008. Cafodd 16 o’i basiau eu derbyn heb ollwng un, sy’n record ar gyfer y Superbowl. Taflodd 30 o’i 40 cynnig yn llwyddiannus, am 296 llath.

Roedd yna funud o ddrama pur i gloi’r sioe fawr, yn dilyn penderfyniad tactegol dwl gan y Giants a roddodd un cyfle olaf i Tom Brady geisio torri ‘jinx’ y Patriots yn erbyn Manning.

Roedd y bêl fodfeddi o gael ei dal am beth fyddai wedi bod y diweddglo mwyaf dramatig posib i Superbowl 46.

Ond roedd hi’n “yffarn o gêm grêt,” yn ôl Rhodri Hampson-Jones, wrth iddo grwydro adre i’w wely am bedwar o’r gloch y bore ’ma.