Bydd Caerdydd yn croesawu gŵyl aml-chwaraeon newydd i bobol ifanc Cymru, Gemau Cymru, eleni.

Bwriad yr Urdd, prif drefnwyr yr achlysur, yw cynnal yr ŵyl am dair blynedd gan symud o amgylch Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Bydd y gemau cyntaf ar 8-10 Gorffennaf eleni ac yn canolbwyntio ar naw camp wahanol – pêl-rwyd, rygbi, gymnasteg, pêl droed i ferched, canŵio, nofio, athletau, y triathalon a chwaraeon anabledd.

Gobaith Efa Gruffydd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd yw ychwanegu at nifer y chwaraeon wrth i’r ŵyl ddatblygu o flwyddyn i flwyddyn.

“Mae’r Urdd yn falch iawn o allu arwain ar y prosiect cyffrous hwn gan ddefnyddio’r profiad a’r arbenigedd sydd gan y mudiad ym maes chwaraeon i drefnu digwyddiad newydd ar gyfer pobol ifanc Cymru,” meddai.

“Bydd Gemau Cymru yn gyfle i sicrhau etifeddiaeth barhaol i chwaraeon yng Nghymru yn sgil Gemau Olympaidd 2012 ac yn gyfle i arddangos y gorau o dalent chwaraeon pobol ifanc Cymru.”

Ysbrydoli

Wrth annerch pwysigion byd chwaraeon yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, dywedodd Laura McAllister, cadeirydd Chwaraeon Cymru a chyn bel-droedwraig broffesiynol, bod y gemau yn gyfle i ysbrydoli plant Cymru i gynnwys chwaraeon yn eu bywyd bob dydd.

“Uchelgais Chwaraeon Cymru yw annog pobol ifanc i wirioni ar chwaraeon am weddill ei hoes,” meddai.

“Mae’r gemau yma’n gwbl angenrheidiol i Gymru i barhau i wneud eu marc ym myd chwaraeon.

Ychwanegodd mai Cymru yw’r wlad fwyaf llwyddiannus yng ngemau’r Gymanwlad a’r gemau paralympaidd o ran nifer y medalau o’i gymharu â’r boblogaeth.

Roedd hi’n llawn canmoliaeth i’r Urdd gan ddweud mai cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nglan Llyn a Llangrannog ysgogodd hi i chwarae pêl droed ar lefel broffesiynol.