Mae Treiathalon Ironman Cymru, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn yn Sir Benfro, wedi’i ganslo eleni oherwydd y pandemig coronafeirws.

Roedd dros 2,000 o athletwyr o bob cwr o’r byd i fod i gymryd rhan yn y digwyddiad, gyda miloedd o wylwyr yn ymgasglu yn Ninbych y Pysgod ac ar hyd llwybr y ras.

Dywedodd y trefnwyr mai diogelwch y gymuned oedd y  “flaenoriaeth bennaf “.

Cynhaliodd  Sir Benfro yr Ironman am y tro cyntaf yn 2011 ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r digwyddiadau dygnwch mwyaf anodd yn y byd, gan ddenu athletwyr o tua 50 o wledydd gwahanol.

Roedd y digwyddiad eleni, sy’n cynnwys nofio 2.4 milltir (3.86 km), ras feics 112 milltir (180km) a marathon, wedi gwerthu allan mewn ychydig oriau.

Bydd Ironman Cymru yn dychwelyd ar Fedi 12, 2021.