Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi cael ei ohirio tan 2021.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw (dydd Iau, Mehefin 4) gan Run 4 Wales, y cwmni sy’n gyfrifol am drefnu’r ras.

Roedd disgwyl i’r hanner marathon gael ei chynnal ar Hydref 4, ond mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi mai Mawrth 28, 2021 fydd y dyddiad newydd.

“Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa o amgylch yr achosion o Covid-19 yn agos a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ac mae’n amlwg bellach na fydd yn bosibl llwyfannu digwyddiadau o’r raddfa hon yn yr Hydref,” meddai Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman.

“Ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn siarad gyda’n noddwyr, partneriaid elusennol, Llywodraeth Leol a phartneriaid allweddol eraill, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gohirio Hanner Marathon Caerdydd eleni ac aildrefnu’r digwyddiad i Fawrth 28 2021.

“Rwy’n hynod falch o’r modd y mae’r tîm yn Run 4 Wales wedi ymateb i’r heriau a gyflwynwyd gan y Coronafeirws.

“Rydym yn gweithio gyda grŵp o sefydliadau digwyddiadau blaenllaw yng Nghymru i sefydlu canllawiau ar gyfer dychwelyd digwyddiadau yn ddiogel.”