Mae trefnwyr Râs Yr Wyddfa wedi cyhoeddi bod y digwyddiad wedi cael ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Roedd y râs i fod i gael ei chynnal yn Llanberis am 2 o’r gloch ar Orffennaf 18.

Mae’n râs wydnwch dros ddeg milltir o Lanberis i Gopa’r Wyddfa.

Mae’n rhaid i bob cystadleuwr ei gwneud hi i fyny ar hyd llwybr Llanberis i gopa’r Wyddfa, sy’n 1,085 medr neu 3,560 troedfedd uwchlaw’r môr, ac yna yn ôl i lawr.

Mae angen bod yn ddeunaw oed i gystadlu yn ras y dynion a’r merched.

Fe wnaeth 600 o bobol gymryd rhan yn y ras y llynedd, gyda’r Albanwr Andrew Douglas yn ennill ras y dynion a’r Wyddeles Sarah McCormack yn ennill ras y merched.