Cafodd y Cymro Gerwyn Price noson ddigon cymysg yn ei gegin neithiwr wrth gystadlu yn Nhaith Gartre’r PDC.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng nghartrefi’r chwaraewyr wrth iddyn nhw gadw at ganllawiau Llywodraeth Prydain i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Er iddo fe drechu Rowby-John Rodriguez o Fienna a’r Sais Ted Evetts o 5-2, cafodd ei chwalu o 5-0 gan Sais arall, Luke Woodhouse.

Roedd Rowby-John Rodriguez wedi gorfod cael caniatâd gan ei gymdogion i chwarae ar ôl 8 o’r gloch, tra bod Gerwyn Price wedi gorfod rhuthro i baratoi ei gegin ar gyfer y gystadleuaeth.

Chwalfa

Er i Gerwyn Price sicrhau sawl buddugoliaeth gyfforddus, fe gafodd ei chwalu gan Luke Woodhouse.

Gorffennodd y Sais gyda chyfartaledd tri dart o 113.9 wrth guro’r Cymro sydd 54 o lefydd uwch ei ben yn y rhestr detholion.

Sgoriodd y Sais 108, 177 ddwywaith a 147 i gwblhau’r fuddugoliaeth swmpus.