Roedd siom ond canmoliaeth i’r paffiwr Jay Harris o Abertawe yn nhalaith Tecsas neithiwr, wrth iddo golli ar bwyntiau yn erbyn Julio Cesar Martinez o Fecsico.

Dechreuodd y Cymro 29 oed yn bositif, yn enwedig yn yr ail a’r drydedd rownd, ond roedd ei wrthwynebydd yn rhy gryf yn y pen draw.

Cafodd ei lorio yn y degfed rownd, ac roedd e ar wastad ei gefn am wyth eiliad i ddod ag unrhyw lygedyn o obaith o ennill i ben.

Y sgôr terfynol oedd 118-109, 116-111 ac 115-112 o blaid ei wrthwynebydd.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Julio Cesar Martinez, sy’n cadw ei wregys WBC, mai Jay Harris yw ei wrthwynebydd mwyaf anodd i’w guro hyd yn hyn.