Fe wnaeth Shaun Murphy chwalu Kyren Wilson o naw ffrâm i un yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sul, Chwefror 16), wrth godi Tlws Ray Reardon ar ôl ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i’r Sais ennill y gystadleuaeth, ac roedd ganddo fe fantais eisoes o saith ffrâm i un dros ei gydwladwr ar ddechrau sesiwn y nos.

Cipiodd e’r fuddugoliaeth gyda rhediadau o 102 a 73 yn y ddwy ffrâm olaf  i ennill £70,000.

Roedd e wedi mynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm ar ôl rhediadau o 108 ac 84 a doedd rhediadau o 52, 45 a 64 ddim yn ddigon i Kyren Wilson daro’n ôl.

O fewn dim o dro, roedd e ar y blaen o chwe ffrâm i ddim cyn i Kyren Wilson ennill ei ffrâm gyntaf.