Fe fydd Elfyn Evans yn dechrau diwrnod olaf Rali Sweden ar y blaen o 17.2 eiliad.

Ott Tanak o Estonia sy’n ail wrth i’r cymal olaf gael ei gynnal yfory (dydd Sul, Chwefror 16).

Enillodd Elfyn Evans dri allan o bedwar cymal heddiw.

Sebastien Ogier o Ffrainc sy’n drydydd, gyda bwlch o 11.6 eiliad rhyngddo fe a’r ail safle.