Fe fydd dyn 72 oed o Gaerdydd yn cynnal ei record o redeg ym mhob un marathon Llundain pan fydd e’n cymryd rhan yn y ras sy’n dathlu ei phenblwydd yn 40 oed eleni.

Mae Jeffrey Aston yn un o griw dethol o bobol sydd wedi cystadlu bob blwyddyn ers sefydlu’r ras yn 1981.

Bydd y ras yn cael ei chynnal ar Ebrill 26 eleni.

Roedd mwy nag 20,000 o redwyr yn y ras gyntaf, ac fe wnaeth 42,549 orffen y ras y llynedd.

Cafodd clwb arbennig ar gyfer rhedwyr ‘bytholwyrdd’ – y rhai sydd wedi cystadlu ym mhob marathon Llundain – ei sefydlu yn 1996.

Roedd 46 o aelodau gan y clwb pan gafodd ei sefydlu, ond dim ond deg sy’n weddill erbyn hyn, gyda’r ystod oedran yn amrywio o 61 i 86.