Mae Gerwyn Price, y chwaraewr dartiau o Sir Caerffili, wedi cyhuddo’i wrthwynebydd Simon Whitlock o chwarae ar gyflymdra “pathetig”.

Daw sylwadau’r Cymro ar ôl iddo drechu’r chwaraewr o Awstralia o 4-2 i gyrraedd rownd wyth olaf Pencampwriaeth PDC y Byd yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Dyma’r tro cyntaf i’r cyn-chwaraewr rygbi fynd mor bell yn y gystadleuaeth.

“O’r dechrau’n deg ro’n i’n ofnadwy a doedd Simon ddim gwell,” meddai wrth SKY Sports.

“Ond fe wnaeth e roi cyfleoedd i fi.

“Roedd yn berfformiad gwael gan y ddau ohonon ni ac ro’n i’n ffodus o ennill.

“Doedd cyflymdra’r gêm ddim yn addas i fi, a dw i’n credu bod Simon wedi gwneud hynny ar bwrpas.

“Fe arafodd e i gyflymdra pathetig, ond wna i ddysgu o hynny a gwneud yn well y tro nesaf i fi wynebu’r fath sefyllfa.

“Dw i’n hoffi gêm sy’n llifo a gêm dda ond mae rhai pobol jyst yn ceisio eich tynnu chi i lawr.”