Mae Brett Johns yn dweud ei fod e am ddychwelyd i’r cylch MMA (campau milwrol cymysg) ym mis Ionawr.

Dyw e ddim wedi ymladd yn yr UFC (Ultimate Fighter Championship), haen ucha’r gamp, ers cael crasfa gan Pedro Munhoz yn Los Angeles fis Awst y llynedd.

Prin fod y Cymro Cymraeg o Bontarddulais yn gallu cerdded allan o’r octagon ac i lawr y grisiau ar ddiwedd yr ornest, a’r dagrau’n cronni yn ei lygaid.

“Diawch, mae Brett Johns yn foi cryf iawn” oedd ymateb ei wrthwynebydd o Frasil ar y noson.

Ei ornest nesaf

Mewn neges ar ei dudalen Facebook heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20), mae Brett Johns yn cadarnhau ei le ar y cerdyn ar gyfer UFC 166.

Bydd yr ornest yn erbyn Tony Gravely o’r Unol Daleithiau yn cael ei chynnal yn Raleigh, Gogledd Carolina ar Ionawr 25 – Dydd Santes Dwynwen.