Wrth i Geraint Thomas asesu ei ddewisiadau ar gyfer cystadlaethau Grand Tour i ddod, dywed ei fod yn ystyried rhoi cynnig ar y Giro d’Italia y flwyddyn nesaf.

Roedd wedi gobeithio cystadlu yn y ras yn 2017, ond cafodd ei rwystro gan anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad â beic modur heddlu.

“Dw i am ddisgwyl tan dw i’n gweld cyrsiau’r Giro a’r Tour cyn penderfynu,” meddai.

Fe fydd yn cystadlu dros Brydain yn y ras beicio ffordd i ddynion yfory ym Mhencampwriaethau Byd UCI yfory, ond tynnodd yn ôl o’r o’r treial amser yn gynharach yr wythnos yma. Dywedodd nad oedd ar ei orau ar ôl blwyddyn o fod o dan bwysau parhaus ers ei fuddugoliaeth yn y Tour de France y llynedd.