Mae Geraint Thomas wedi torri 27 eiliad oddi ar flaenoriaeth y Ffrancwr Julian Alaphilippe yn ras feics Tour de France ar ôl cymal 15.

Wrth anelu am y Prat d’Albis, Simon Yates aeth â’r fuddugoliaeth am yr ail waith yr wythnos hon yn dilyn ei lwyddiant yn y deuddegfed cymal.

Er bod Thibaut Pinot wedi gorffen ar y blaen i Geraint Thomas, mae’r Cymro’n dal uwch ei ben yn y tabl ar y cyfan.

Blinder?

Er y bydd Julian Alaphillipe yn gwisgo’r crys melyn yn y cymal nesaf ddydd Mawrth (Gorffennaf 22), mae arwyddion eisoes ei fod yn dechrau blino, ac yntau heb ei ystyried cyn dechrau’r ras ymhlith y ffefrynnau.

Bwlch o 1 funud a 35 eiliad sydd rhyngddo fe a Geraint Thomas erbyn hyn, a’r disgwyl yw y bydd y Cymro’n parhau i ymosod am y crys melyn.

Mae Steven Kruijswijk 12 eiliad y tu ôl i’r Cymro, a Thibaut Pinot dair eiliad y tu ôl i hwnnw eto yn y pedwerydd safle.