Mae Geraint Thomas yn dechrau pedwerydd cymal ar ddeg ras feics Tour de France heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20) 86 eiliad y tu ôl i’r Ffrancwr, Julian Alaphilippe.

Ddiwrnodau’n unig ar ôl i’r Ffrancwr ddweud mai’r Cymro yw’r ffefryn i ennill y ras, mae Geraint Thomas bellach yn credu mai ei brif wrthwynebydd, ac nid fe, yw’r ffefryn.

Bydd y cymal presennol yn gorffen ar gopa’r Tourmalet.

Roedd y Cymro 72 eiliad y tu ôl i’r Ffrancwr cyn y cymal diwethaf, ac 14 eiliad y tu ôl iddo yn erbyn y cloc yn ystod y cymal.

“Wnes i ddim wir disgwyl hynny,” meddai Geraint Thomas.

“Mae e’n amlwg yn mynd yn eithriadol o dda, felly mae’n sicr mai fe yw’r ffefryn a’r un i’w wylio ar hyn o bryd.”