Mae’r Ffrancwr sy’n gwisgo crys melyn ras feics Tour de France yn dweud ei fod yn disgwyl ei ildio i’r Cymro Geraint Thomas yn y pen draw.

Julian Alaphilippe sydd ar y blaen ar ddechrau’r deuddegfed cymal, ar ôl i’r cymal diwethaf gael ei ennill gan Caleb Ewan yn ei Tour gyntaf.

Cymal mynyddig sydd yn wynebu’r cystadleuwyr heddiw, a hynny dros bellter o 209.5km o Toulouse i Bagneres-de-Bigorre.

Mantais o 72 eiliad sydd gan y Ffrancwr dros Geraint Thomas, ond mae disgwyl i’r cymal hwn fod yn fwy addas i’r Cymro, sy’n ceisio ennill y Tour am yr ail flwyddyn yn olynol.

‘Mae Paris yn bell iawn i ffwrdd’

“Mae pob diwrnod yn antur newydd mewn melyn, sy’n braf iawn,” meddai Julian Alaphilippe.

“Beth bynnag sy’n digwydd yfory, bydda’ i’n hapus.

“Fe wna i geisio ei gadw [y crys melyn], ond mae Paris yn bell iawn i ffwrdd.

“Mae Geraint Thomas yn edrych yn gryf a hyderus iawn. O ran y gweddill, wn i ddim.”