Mae Geraint Thomas wedi llwyddo i gyrraedd yr ail safle yn y Tour de France yn dilyn diwrnod dramatig yn y degfed cymal yn Albi.

Roedd y Cymro a’i gyd-aelod yn nhîm Ineos, Egan Bernal, ymhlith y seiclwyr a achubodd y blaen ar rai o’u cyd-gystadleuwyr a gafodd eu dal mewn grŵp a gollodd 100 eiliad.

Ar ddechrau’r cymal yn Saint-Flour, a hynny ar y diwrnod diwethaf o seiclo cyn cyfnod o seibient, roedd Geraint Thomas yn y bumed safle.

Yn gwisgo’r crys melyn ar ddiwedd y ras ddydd Llun (Gorffennaf 15) oedd Julian Alaphilippe, gyda Wout Van Aert yn ennill y cymal ei hun – y tro cyntaf i’r gŵr o Wlad Belg brofi buddugoliaeth yn y ras.

Mae Geraint Thomas ar hyn o bryd 72 eiliad y tu ôl i Julian Alaphilippe, a phedair eiliad o flaen Egan Bernal sydd yn y drydedd safle.