Simona Halep yw pencampwraig merched Wimbledon eleni ar ôl curo Serena Williams 6-2 6-2 mewn gêm a barhaodd lai nag awr.

Dyma’r tro cyntaf i neb o Romania ennill teitl gemau unigol Wimbledon, wrth i’r ferch 27 oed ei ychwanegu at ei buddugoliaeth ym mhencampwriaethau agored Ffrainc yr haf diwethaf.

Mae’n golygu bod Serena Williams yn dal un yn fyr o sicrhau 24 teitl gemau unigol a chyrraedd y record sy’n cael ei dal gan Margaret Court.

Roedd heddiw’r trydydd tro i’r Americanes golli mewn gêm derfynol ers iddi ddychwelyd i chwarae ar ôl genedigaeth ei merch y llynedd.