Mae Evan Hoyt, y chwaraewr tenis o Gymru, yn benderfynol o fwynhau “un gêm ar y tro” wrth iddo baratoi i gystadlu yn rownd wyth ola’r dyblau cymysg yn Wimbledon.
Cyrhaeddodd e a’i bartner Eden Silva yr wyth olaf ar ôl trechu Joran Vliegen a Zheng Saisai yn y rownd flaenorol.
Roedd e’n un o’r chwaraewyr ieuenctid gorau ar ddechrau ei yrfa, ac mae e wedi ymddangos yn Wimbledon dair gwaith ond roedd pryderon y gallai gyrfa’r chwaraewr 24 oed fod ar ben beth amser yn ôl oherwydd anafiadau.
Roedd e allan am flwyddyn ar ôl torri ei gefn ac wrth iddo wella, fe gafodd e anaf i’w ysgwydd a llawdriniaeth, oedd wedi ei gadw e allan am 18 mis arall.
“Ar adegau, ro’n i’n amau a o’n i am ddod yn ôl,” meddai.
“Ro’n i allan, ond ddim yn gwneud rhyw lawer.
“Wnes i drio cadw fy hun mor ffit â phosib, a dechrau gwneud gradd yn y brifysgol, ac ro’n i’n gwneud ychydig o hyfforddi er mwyn ennill arian, ond ro’n i’n gwybod fod dipyn o ffordd cyn y gallwn i ddychwelyd.”
Mwynhau
Mae’n dweud ei fod e am geisio mwynhau’r profiad o gystadlu yn y dyblau cymysg gymaint â phosib.
“Dw i’n gwybod fod Eden a fi yn teimlo’n fwyfwy hyderus,” meddai.
“Roedd Cwrt Dau yn gwrt mawr i chwarae arno fe, a dw i’n credu ein bod ni wedi cymryd y peth yn hamddenol a chwarae tenis dda, yn enwedig yr adegau mawr.
“Ry’n ni wedi trio cael hwyl, a dw i wedi atgoffa Eden bob gêm i’w mwynhau hi a pheidio â chael disgwyliadau oherwydd dyma ein tro cyntaf yn Wimbledon.
“Ar adegau, os ydych chi’n cymryd y peth yn rhy ddifrifol, rydych chi’n colli’r egni a’r wefr, yn ogystal â’r cwlwm rhyngoch chi ar y cwrt. Dw i jyst wrth fy modd.”
Mae’n bosib y gallen nhw herio Andy Murray a Serena Williams yn y rownd derfynol ddydd Sul pe baen nhw’n mynd yr holl ffordd.
“Byddwn i’n barod amdani,” meddai. “Pwy a ŵyr? Ry’n ni’n ei chymryd hi un gêm ar y tro a jyst yn ei mwynhau hi.”