Bydd criw o saith dyn ac un ddynes yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Cneifio’r Byd dros y penwythnos.
Mae’r gystadleuaeth ryngwladol, a fydd yn denu 300 o gneifwyr o wledydd ledled y byd, yn cael ei chynnal eleni yn nhref La Dorate ger Limoges yn Ffrainc.
Yn ogystal â chystadleuaeth gneifio â pheiriant, bydd cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellaif hefyd.
Mae tîm Cymru, o dan gapteniaeth Rhydwyn Price o Walton yn Sir Faesyfed, yn cynnwys:
- Richard Jones o Gorwen – cneifio â pheiriant;
- Alun Lloyd-Jones o Langollen – cneifio â pheiriant;
- Elfed Jackson o Nant Ffrancon – cneifio â gwellaif;
- Rheinallt Hughes o Lanarmon Dyffryn Ceiriog – cneifio â gwellaif;
- Aled Jones o Lanfair ym Muallt – trin gwlân;
- Gwenan Paewai o Ddyfnaint, ond yn gynt o Gorwen – trin gwlân.
“Mae gennym ni Dîm Cymru cryf iawn yn mentro allan i Ffrainc ar gyfer Pencampwriaeth Cneifio’r Byd yn Ffrainc,” meddai Rhydwyn Price.
“Rydym yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn eu hymgais i ddod â theitlau’r bencampwriaeth adref.”