Bydd y Cymro, Geraint Thomas, yn arwain Tîm Ineos yn y Tour de France ar ôl i Chris Froome gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain.

Roedd y seiclwr, sydd wedi ennill y Tour de France bedair gwaith yn y gorffennol, wedi derbyn cyfres o anafiadau ar drothwy cymal pedwar y Criterium du Dauphin yn Ffrainc.

Fe gadarnhaodd Tîm Ineos ddoe (dydd Mercher, Mehefin 12) na fyddai Chris Froome yn ddigon iach i gystadlu yn y Tour de France eleni.

Mae disgwyl i’r arweinydd newydd, Geraint Thomas, gystadlu yn y Tour de Suisse dros y penwythnos.