Mae heddlu Ffrainc wedi holi cyfres arall o chwaraewyr tenis sydd dan amheuaeth o dwyllo mewn gemau am arian.

Mae saith chwaraewr wedi’u dwyn i’r ddalfa yn Ffrainc yr wythnos hon, cyn cael eu rhyddhau, sy’n gwneud cyfanswm sydd wedi cael eu holi ar y mater yn beth bynnag 17.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad ym mis Ionawr eleni, ac mae’n cael ei arwain gan awdurdodau yng ngwlad Belg, ble mae’r prif dwyllwr honedig, Grigor Sargsyan, yn gweithio.

Y gred yw bod y twyllo, sydd wedi bod yn digwydd mewn cystadlaethau o safon is, wedi lledaenu i bron i ddwsin o wledydd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau.

Mae awdurdodau Gwlad Belg wedi galw am gymorth yr FBI, ynghyd ag awdurdodau yn yr Aifft, Slofacia, Bwlgaria, yr Iseldiroedd a’r Almaen, i’w cynorthwyo i geisio cael at wraidd y twyll.