Mae Jazz Carlin wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymddeol o’r byd nofio yn 28 oed.

Bu’n dioddef o salwch ac anafiadau ers iddi fethu ag ennill medal yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia y llynedd.

Dywedodd hi bryd hynny ei bod hi’n bwriadu cael seibiant o’r gamp am gyfnod.

Enillodd hi’r fedal aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2014, a dwy fedal aur yn y 400m a’r 800m dull rhydd yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.

Daeth y llwyddiannau hynny ar ôl iddi fethu â sicrhau lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 – cyfnod lle’r oedd hi’n ystyried ymddeol.

“Fe fu’n daith anhygoel, yn llawn troeon trwstan, ac fe gymerodd gryn amser i fi sylweddoli fy mod hi’n haeddu cystadlu ymhlith y goreuon yn y byd,” meddai.

“Roedd hyder yn rhywbeth ro’n i bob amser yn ei gael yn anodd, ond roedd fy medalau arian yn Rio ac yn amlwg fy medal aur i Gymru wedi gwneud i fi gredu eto, a byddan nhw bob amser ymhlith uchafbwyntiau fy ngyrfa.”

Ers Gemau’r Gymanwlad y llynedd, fe fu’n dioddef o niwmonia ac roedd hynny’n golygu ei bod hi wedi gorfod rhoi’r gorau i’w chynlluniau i ddechrau nofio mewn dŵr yn yr awyr agored.