Mae’r Cymro Duane Jones wedi sicrhau buddugoliaeth annisgwyl wrth guro Judd Trump o Loegr ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.

Y Sais, sy’n rhif pump ar restr detholion y byd, oedd y ffefryn clir i guro’r chwaraewr sy’n rhif 72 yn y byd.

Ond enillodd Duane Jones dair ffrâm gynta’r ornest, cyn i’w wrthwynebydd daro’n ôl i ennill y ddwy ffrâm nesaf i’w gwneud hi’n 3-2.

Ond roedd sgôr o 68 yn ddigon i Duane Jones symud ymlaen i’r drydedd rownd.

“Wnes i chwarae’n iawn,” meddai wrth y BBC wedyn. “Ond ro’n i’n meddwl ’mod i wedi chwythu ’mhlwc.

“Dw i wedi chwarae’n wael, ond dw i wrth fy modd yn chwarae yma.”

Dywedodd mai ei dacteg o’r dechrau’n deg oedd gorfodi Judd Trump i wneud yr ymdrech i ennill y gêm.