Cipiodd y New England Patriots fuddugoliaeth hanesyddol wrth guro’r Los Angeles Rams o 13-3 yn y Super Bowl yn Atlanta heddiw (dydd Llun, Chwefror 4).

Dyma’r chweched tro i’r chwarterwr Tom Brady a’r hyfforddwr Bill Belichick ennill prif gystadleuaeth y byd pêl-droed Americanaidd.

Mae chweched fuddugoliaeth y Patriots yn golygu eu bod nhw’n gyfartal â’r Pittsburgh Steelers, sydd hefyd wedi ennill y Super Bowl chwe gwaith.

Yn 66 oed, Bill Belichick yw’r hyfforddwr hynaf erioed i arwain tîm i fuddugoliaeth yn y Super Bowl, a does neb wedi ennill mwy o dlysau Super Bowl na Tom Brady.

 Cael a chael am gyfnodau hir

Gornest amddiffynnol oedd hi ar y cyfan, gyda’r sgôr yn gyfartal 3-3 tan yn hwyr yn y pedwerydd chwarter. Hwn yw’r sgôr isaf erioed yn y gystadleuaeth, gan guro’r record flaenorol o 21 o bwyntiau.

Aeth y Patriots ar y blaen wrth i Stephen Gostkowski gicio cic faes o 42 llath yn yr ail chwarter.

Roedd Jared Goff, chwarterwr dibrofiad y Rams, dan bwysau wedi hynny er i Greg Zuerlein unioni’r sgôr gyda gôl faes i’w gwneud hi’n 3-3.

 Y Patriots yn rhy gryf

Pan basiodd Tom Brady y bêl i Rob Gronowski i arwain Sony Michel dros y llinell, roedd gan y Rams saith munud i daro’n ôl.

Ond arhosodd amddiffyn y Patriots yn gryf i godi tlws Vince Lombardi unwaith eto.

Cafodd Julian Edelman, derbynnydd llydan y Patriots ei enwi’n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y gêm, ar ôl derbyn y bêl yn llwyddiannus ddeg gwaith, gan ennill gwerth 141 llath o dir.