Mae Geraint Thomas, y seiclwr o Gaerdydd, ymhlith y ffefrynnau i gael ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn Birmingham heno (nos Sul, Rhagfyr 16).

Mae e eisoes wedi’i goroni’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Chwaraeon Cymru eleni.

Fe fydd e’n cystadlu yn erbyn dau arall o’r ffefrynnau, y pêl-droediwr Harry Kane a’r paffiwr Tyson Fury.

Fydd y rhestr fer ddim yn cael ei chyhoeddi’n derfynol tan fod y rhaglen wedi dechrau, pan fydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio, ond fe allai buddugoliaeth y Cymro yn ras feics Tour de France – y Cymro cyntaf i gyflawni’r gamp – fod yn ddigon i sicrhau’r wobr iddo.

Ymhlith y rhai eraill a allai gael eu coroni mae Lewis Hamilton (Formula 1), Dina Asher-Smith (Athletau), Lizzy Yarnold (Sgerbwd), Adam Peaty (Nofio), Ronnie O’Sullivan (Snwcer), Alastair Cook (Criced) a Jonathan Rea (Rasio beics).