Mae rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru wedi’i chyhoeddi.

Ymysg yr enwau mae rhai o bencampwyr, sy’n adlewyrchu llwyddiant Cymru mewn nifer o feysydd.

Mae’r pêl-droediwr Gareth Bale; y feicwraig Elinor Barker; Laure Deas sy’n rhan o’r tîm rasio sgerbwd; y sgïwraig Menna Fitzpatrick; y beiciwr Geraint Thomas a’r chwaraewr snwcer Mark Williams.

Mae’r bleidlais yn agor ddydd Llun nesaf, Tachwedd 26, ac mi fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar Ragfyr 4.