Enillodd y seiclwraig Elinor Barker ei hail fedal aur ar ail ddiwrnod Cwpan y Byd y Trac yng Nghanada.

Daeth hi a Katie Archibald i’r brig yn ras bwyntiau’r Madison ym Milton.

Roedd y ddwy yn aelodau o dîm Prydain a gipiodd y fedal aur yn y ras gwrso ar y diwrnod cyntaf.

Bydd pedwaredd rownd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Llundain rhwng Rhagfyr 14-16.