Russell Bentley yw enillydd marathon Eryri eleni, ar ôl gorffen y ras mewn dwy awr, 38 munud a 21 eiliad.

Dyma’r ail waith iddo ennill y ras mewn tair blynedd.

Bu’n rhaid iddo fethu’r ras y llynedd oherwydd anaf.

Martin Green oedd yn ail ar ôl gorffen mewn dwy awr, 43 munud ac 17 eiliad.

Yn drydydd roedd Robert Weekes, gydag amser o ddwy awr, 45 munud a 51 eiliad.

Mae modd gweld y canlyniadau’n llawn ar wefan y ras.