Mae Gareth Wyn Hughes o bentref Llanberis wedi gosod record newydd yn ras Pedol yr Wyddfa.

Gydag amser o 1:23:48, torrodd y rhedwr y record o fwy na munud cyfan ddydd Sadwrn diwethaf (Medi 29). Yr Albanwr Es Tresidder, enw adnabyddus ym myd rhedeg mynydd, oedd yn dal y record cyn hynny (1:25:08).

“Dros y mis dwytha’ ro’n yn mynd am recce er mwyn dod i nabod y trac i mi gael canolbwyntio ar y rhedeg,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Ar y diwrnod roedd yr amodau yn dda, yn cŵl, ac yn sych. Y darn anodda’ ydi canolbwyntio ar y llinellau. Ti jyst bob tro yn chwilio am y llinell.”

Ar y rhaffau 

Fe ddechreuodd Gareth Hughes redeg yn 2014 a daeth yn agos iawn at dorri record Pedol yr Wyddfa yn 2015. Mae’n aelod o dîm Mercia Runners, a’i gariad, Sarah Ridgway,  sy’n dal record ras y merched.

“Roedd hynny’n ysbrydoliaeth!” meddai’r rhedwr 37 oed sy’n gweithio fel technegydd rhaffau i gwmnïau adeiladau pan nad ydi o’n rhedeg. Ef hefyd sy’n dal record ras Pedol Peris ers 2017 (3:27:03).

Mae’r ras yn cynnig dipyn o her i redwyr o safon – mae’n dechrau o Drac y Glowyr ym Mhen y Pas mae’n rhaid rhedeg Trac Moch, Bwlch Moch, Crib Goch, dros Garnedd Ugain, Yr Wyddfa, Lliwedd, Lliwedd Bach, ac yn ôl ar hyd Trac y Glowyr.

Ei her nesaf yw cystadlu yn y Bencampwriaeth Brydeinig yn Ardal y Llynnoedd, cyn mentro i gynrychioli Cymru yn yr Eidal.