Mae cyn-bencampwr bocsio’r byd wedi’i gyhuddo o dreisio dynes ym mis Mawrth eleni.

Mae heddlu yn Oxnard, Califfornia, wedi cadarnhau i Victor Ortiz ei gyflwyno ei hun i’r awdurdodau yn Swyddfa Siryf Ventura brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Medi 25).

Roedd gwarant wedi’i chyhoeddi i’w arestio, wedi ymchwiliad a barodd fisoedd. Mae gwefan y siryf yn cadarnhau fod Victor Ortiz wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ar ôl cynnig $100,000 (£76,000).

Mae’n wynebu cyhuddiadau o drais ac o orfodi rhyw trwy’r geg a gorfodaeth pan fydd yn ymddangos gerbron y llys ar Hydref 10.

Victor Ortiz, 31, oedd deilydd gwregys WBC pwysau welter yn 2011, cyn colli i Floyd Mayweather Jr. Mae wedi ennill 32 gornest allan o 41, ac mae wedi taro 25 o’i wrthwynebwyr yn anymwybodol.